Sunday 22 June 2014

Hanes dwy faton

Baton Mrs Windsor

Ychydig wythnosau nôl ar ddiwedd mis Mai bu cyfle i weld baton Ei Mawrhydi dros gyfnod o bum niwrnod wrth iddi fynd igam-ogam trwy'r wlad ar ei ffordd i Gaeredin a Gemau'r Gymanwlad. Mi aeth y BBC ati o ddifri i godi cefnogaeth i'r ffon gyda diweddariadau o Gwmsgwt a threfi mwy, twîts a thudalen arbennig ar Facebook.

A hyn i gyd - y darllediadau allanol, y gohebwyr gorgynhyrfus, y cyfweliadau â selebs, hoelion wyth lleol a chyn bencampwr y wib ganllath -  yr holl syrcas ar gyfer digwyddiad tu hwnt i Glawdd Offa.

Yn ôl y Bîb, roedd "wal o sŵn" i'w glywed wrth i'r faton gyrraedd Aberteifi, a'r lle dan ei sang.

Gan gofio taith ddiflas y ffagl olympaidd trwy'r dre, penderfynodd y Cneifiwr aros gartre a chwynnu'r ardd, ond y diwrnod wedyn gwelais i Mrs S yn Aldi.

Darllen y Daily Mail mae Mrs S, ac rwy'n amau'n gryf bod yna dyweli sychu Wils a Kate yn ei chegin. Dyw Mrs S ddim yn orhoff o genedlaetholwyr, felly.

"Rwtsh llwyr", meddai. "Roedd 'na dipyn o bobl yn dre, mae'n wir. Hanner tymor a diwrnod braf, wel, mae pobol yn dod ma's, on'd ŷn nhw? O beth welais i doedd y lle ddim dan ei sang o bell ffordd."

"'Sen nhw wedi hysbysebu'r digwyddiad, bydde mwy o bobol wedi troi ma's", meddai hi. "Wen i ar y ffordd i weld y chiropodist, chimod."


Baton Ras yr Iaith

Cynhaliwyd Ras yr Iaith am y tro cyntaf ar ddydd Gwener, a rhedodd hyd at 1,000 o bobl yn ystod y dydd o Fachynlleth trwy hyd a lled Ceredigion cyn cyrraedd Aberteifi. Troiodd miloedd o bobl allan i ddathlu a chefnogi'r rhedwyr.

Nod y digwyddiad oedd dod â phobl at ei gilydd a dathlu'r iaith. Yn hytrach na gweision sifil ar bwyllgorau swyddogol, gwirfoddolwyr lleol dan arweiniad Siôn Jobbins a drefnodd bopeth, a llwyddiant anferthol oedd hi.

Daeth y syniad o gynnal ras dros yr iaith o ddigwyddiadau tebyg yng Ngwlad y Basg, Llydaw ac Iwerddon, ac heb os aiff Ras yr Iaith o nerth i nerth yn y blynyddoedd nesaf.

Tra bod neges "gyfrinachol" ym maton Palas Buckingham, roedd neges ar ffurf englyn gan y Prifardd Ceri Wyn Jones, a byrdwn yr englyn oedd pasio'r iaith ymlaen i'r cenedlaethau nesaf.

Adroddiad 8 llinell oedd ymateb BBC Wales, a dim ond ychydig mwy oedd gan BBC Cymru i'w ddweud.

Yn anffodus, doedd dim lle i'r digwyddiad ar BBC Wales Today chwaith.



2 comments:

Anonymous said...

Diolch i Heno am roi sylw teilwng iawn i'r achlysur yn ystod rhaglen awr o hyd. Ond naw wfft i'r BBC. Anwybodaeth, difaterwch neu ddiogi golygyddol? Neu, yn fwy sinistr, ddim yn rhan o agenda gynyddol Brydeinig y Gorfforaeth?
40 mlynedd ers i Dafydd Iwan ganu am y diffyg sylw i ferthyron yr iaith "So what? medd riportar y BBC...Mae pethau pwysicach i'r rhoi ar TV" beth sydd wedi newid?

Efrogwr said...

Diolch am yr adroddiad a llongyfarchiadau i bawb gymherodd ran. Gwarth yw agwedd BBC Principality ond, ar yr ochr arall mae'n wych gweld bobl yn trenfu rhywbeth ar lawr gwlad all troi'n beth fydd yn hoelio sylw ehangach yn y dyfodol.