Cyfarfod cyhoeddus a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg
Neuadd Felinfach, 8pm, Nos Iau, 8fed o Fai
Cyng. Lynford Thomas (Cadeirydd)
Siaradwyr: Dylan Iorwerth, Euros Lewis, Owen Llew, Gareth Lloyd, Dafydd Edwards, Cen Llwyd
Am ragor o fanylion:bethan@cymdeithas.org 01970 624501
(A public meeting in Welsh in Felinfach between Lampeter and Aberaeron to discuss the changes which are needed to make a fairer planning system.)
_________________
Cyllideb decach i'r Gymraeg
Cynhadledd Mudiadau Dathlu'r Gymraeg, Canolfan Soar, Merthyr Tudful, 21 Mai
Bydd arbenigwyr iaith a gwleidyddion o bob plaid yn
ymgynnull i drafod cyllideb decach i'r Gymraeg mewn cynhadledd a drefnir gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful,
ar 21ain Fai.
Ymhlith y siaradwyr bydd Carwyn Jones, y Prif Weinidog,
Kirsty Williams arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a Leanne Wood,
arweinydd Plaid Cymru. Yn dilyn sesiynau’r gwleidyddion bydd Paul Bilbao o wlad
y Basg, y Cynghorydd Cefin Campbell a fu'n arwain Grŵp Gorchwyl ar y Gymraeg yn
Sir Gâr, Siân Lewis o Fenter Iaith Caerdydd, Dai Bryer o'r Urdd a Rhian Huws
Williams o Gyngor Gofal Cymru. Bydd gweithgareddau'r dydd yn cael eu llywio gan
y darlledwr Vaughan Roderick.
Am fwy o wybodaeth, neu os hoffech fod yn
bresennol yn y gynhadledd, cysylltwch â Gaynor Jones: gaynorjones@dathlu.org / 01554
833902
(A conference to discuss fairer funding for the Welsh language with in put from Paul Bilbao, a specialist in language planning from the Basque Country).
No comments:
Post a Comment