"Mae’r iaith Gymraeg wedi bod yn rhan annatod o fywyd cymunedau Sir Gâr ers canrifoedd ond y tristwch yw ei bod hi bellach yn diflannu’n araf fel tywod mân rhwng ein bysedd", yn ôl y rhagair. "Credwn.... fod yr adroddiad hwn yn cynnig cyfle i’r Cyngor Sir i greu hanes. Byddai mabwysiadu’r adroddiad hwn yn arwydd bod y Cyngor o ddifrif ynglŷn ag adfer y Gymraeg."
Derbyniodd aelodau'r gweithgor bob un o'r argymhellion yn unfrydol, ac mae hynny'n dyst i arweinyddiaeth fedrus Cefin Campbell. Bydd Bwrdd Gweithredol y Cyngor (h.y. y cabinet) yn trafod yr adroddiad mewn cyfarfod ddydd Llun.
Ymhlith yr argymhellion niferus mae:
- cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg trwy symud ysgolion cynradd ac uwchradd ar hyd y continwwm iaith;
- cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y Cyngor Sir a dwyieithogi ymhellach gweinyddiaeth fewnol y Cyngor gyda’r nod o weinyddu’n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg gydag amser;
- cynnig bod Llywodraeth Cymru'n grymuso'r Bil Cynllunio a TAN20 i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hystyried fel rhan annatod o'r broses cynllunio;
- cynnig bod y Cyngor Sir yn newid ei bolisi tai fforddiadwy er mwyn sicrhau "argaeledd uwch o fewn datblygiadau tai";
- cynigion i fynd i’r afael â’r llif cyson o bobl ifanc yn gadael y sir trwy fynd ati i greu cyfleoedd gwaith a swyddi lleol er mwyn galluogi ein pobl ifanc i aros yn yr ardal.
Nid oes modd newid pethau dros nos, ac does neb yn disgwyl hynny, ond mae'r adroddiad yn hynod o amwys o ran gosod amserlen. Bydd rhaid newid "dros gyfnod o amser" a'r gobaith yw y bydd y Cyngor yn gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg "gydag amser". O brofiad, mae yna le i amau y bydd arweinyddiaeth y Cyngor yn derbyn yr argymhellion gyda gwên cyn llusgo ei thraed a rhwystro newid. Ond newid sydd eisiau, a newid sylfaenol ym meddylfryd yr awdurdod.
Bydd hi'n hanfodol, felly, bod y Cyngor yn sefydlu pwyllgor parhaol i fonitro gweithrediad yr argymhellion.
Braidd yn siomedig hefyd yw ymateb y Gweithgor i bolisïau recriwtio'r Cyngor. Dylai'r awdurdod "gynnal adolygiad cynhwysfawr o swyddi’r Cyngor fesul adran er mwyn adnabod swyddi lle ddylai’r Gymraeg fod yn hanfodol. Dylid canolbwyntio yn y lle cyntaf ar swyddi sy’n darparu gwasanaeth uniongyrchol i’r cyhoedd".
A fydd modd cymreigio'r Cyngor o'r gwaelod i fyny? Y prif-weithredwr a'i swyddogion uwch sy'n gosod naws y Cyngor, nid y rhengoedd is. Cafodd Mark James ei benodi yn 2001 a dywedodd wrth y Western Mail,
"I am looking forward to working in Wales again and having an opportunity to learn the Welsh language which is so central to life in Carmarthenshire."
Erbyn hyn mae'n gallu dweud "Bore da". Er bod "sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg" yn "hanfodol" mewn sawl swydd, mae'r Cyngor yn dal i recriwtio ymgeiswyr di-Gymraeg iddyn nhw ar yr amod eu bod nhw'n mynychu cwrs. Yn union fel Mr James.
Wedi dweud hynny, mae'r adroddiad yn llawn gwybodaeth a syniadau adeiladol, ac mae'n debyg mai dyma fydd y cyfle olaf i'r Cyngor wrth-droi'r dirywiad yn Sir Gaerfyrddin.
Llongyfarchiadau mawr i Cefin Campbell a'r Gweithgor, felly.
1 comment:
This bothers me, the current farcical ruling body prepared to cut Welsh language funding, out of kilter with EU thinking on minority languages and desperately out of sync with its forward thinking neighbour, Ceredigion.
Look forward to seeing the Council apply these measures.
Post a Comment