Faint o engyl all sefyll ar glopa pin, a pha mor ddu yw cath ddu? Yn ei hanfod, dyna'r ddadl ffyrnig rhwng Mentrau Iaith Sir Gâr, y Cyngor Sir ei hun a chadeirydd Gweithgor y Cyfrifiad, Cefin Campbell, am gyllid y mentrau.
Yn y rhifyn newydd o Golwg mae Alun Gibbard yn rhoi cynnig ar ddilyn yr ymryson i'w wraidd. Fel mae Alun yn esbonio, y cwestiwn yw a oedd arian wedi'i neilltuo ar gyfer Mentrau Iaith yn cael ei ddefnyddio i dalu am waith y gweithgor?
"Mae arian wedi cael ei roi naill ochr ar gyfer hynny. Ac unwaith eto, dyw e ddim yn gywir i ddweud bod arian wedi ei dynnu o'r Mentrau er mwyn ei roi i'r gweithgor", dywedodd Cefin Campbell wrth Golwg.
Roedd ateb Cefin yn ddigon clir, felly.
Wrth iddo siarad â Golwg, cyhoeddodd adran wasg y cyngor ddatganiad arall er mwyn "mireinio ar y manylion":
Yn sgil cyhoeddi canlyniadau’r
Cyfrifiad 2011 ym mis Rhagfyr 2012 cytunodd Bwrdd Gweithredol y Cyngor i
neilltuo’r arian oedd wedi ei dorri o’r Mentrau er mwyn cefnogi gwaith
ymchwil pellach ac i fynd i’r afael ag argymhellion Gweithgor y
Cyfrifiad. Nid oes unrhyw ymrwymiadau wedi’u cytuno i’r arian hwn hyd
yma.
Mae hynny'n ddigon clir hefyd.
Ond eto, er gwaetha eglurder yr atebion, mae'r niwl yn parhau. Ac dw i ddim yn credu am eiliad fod Cefin Campbell am gamarwain y cylchgrawn.
No comments:
Post a Comment