Wednesday 5 September 2012

Un o bob tri - dementia, henoed ac iaith

Dw i wedi bod yn dilyn y gyfres Y Pla Newydd gan Beti George ar y radio, a darlledwyd rhaglen arall am y clefyd creulon hwn ar S4C o dan y teitl Un o bob tri nos Sul ddiwethaf. Er mai testun trist ac anodd yw hwn, mae gan Beti neges bositif.

Fel mae'n digwydd, bu'n rhaid i mi fynd i Loegr yr wythnos diwetha' i gyflwyno prosiect newydd mewn cartrefi henoed, a chefais gyfle i siarad â'r staff a'r preswylwyr. Cartrefi moethus a drud iawn oedd dau ohonyn nhw, tra bod canran uchel o bobl â dementia ac alzheimers yn y lleill. A nhwthau'n ddrud iawn siŵr o fod.

Cefais fy magu mewn teulu estynedig oedd yn llawn hen bobl, a bu'r rhan fwyaf ohonyn nhw fyw i fod yn hen iawn. Bu farw fy mam-gu yn 98 oed, a'i dwy chwaer yn 96. Hyd y gwn i, doedd yr un yn dioddef gan dementia, er bod un o'r modrybedd yn ddryslyd ar y diwedd.

Mae Dad yn byw "gyda Mr Parkinson", fel mae e'n dweud, ers 20 mlynedd, ac mae e mor bengaled a styfnig. Er gwaetha'r problemau, mae Mam yn meddwl eu bod nhw'n ffodus iawn o'u cymharu â chymaint o bobl eraill.

Beth darodd fi yn y cartrefi preswyl oedd tynged lleiafrif o bobl nad oedd yn ymddangos bod â dementia. Roedden nhw'n hen ac yn eiddil, mae'n wir, ond fel arall heb unrhyw broblem iechyd meddwl hyd y gwelais i. Maen nhw'n gorfod rhannu eu bywydau gyda phobl sy'n sâl iawn - y rhai sy'n eistedd yn ddistaw, heb allu siarad nac ymateb i ddim, a'r rhai sy'n swnllyd ac yn ddryslyd.

Gwylltiodd rhywun wrth fwyta banana a dechrau llefain. "Gola-gola-gola-gola," meddai trwy'r amser.

"We've got a few escape artists here", meddai un o'r gofalwyr.

Mae'r staff yn gwneud eu gorau glas, ac maen nhw'n trefnu gweithgareddau ac adloniant i'r preswylwyr. Dyw hynny ddim yn digwydd ymhobman, ac dyw pethau ddim yn well yng Nghymru. Mae diffyg o weithgareddau ac adloniant yn un o'r beirniadaethau amlycaf yn adroddiadau CSSIW, y corff sy'n gyfrifol am arolygu cartrefi preswyl yng Nghymru.

Wrth reswm, mae trefnu gweithgareddau i grwpiau mawr o bobl mewn gwahanol gyfnodau'r clefyd yn hynod o anodd, ac un o negeseuon Beti George oedd pwysigrwydd cymdeithasu mewn grwpiau bach. Gan fod adnoddau'n mynd yn brinach, mae'n bwysicach oll cael rhagor o wirfoddolwyr sy'n fodlon treulio awr neu ddwy gyda'n hen ffrindiau.

Does dim angen lot, dim ond dal llaw rhywun, gwenu, dangos lluniau (blodau, anifeiliaid ac ati), neu ganu. Mae bron pawb yn gwerthfawrogi cerddoriaeth, hyd yn oed y rhai sy wedi cyrraedd cyfnodau hwyr y clefyd.

Wrth i bobl golli eu hannibyniaeth a'u byd yn mynd yn llai, mae iaith yn dod yn bwysicach iddyn nhw, yn enwedig i'r rhai sy'n siarad Cymraeg mewn cartrefi preswyl lle nad yw pawb yn gallu siarad yr iaith. Sylwodd Beti George fod pawb yn gwenu wrth glywed iaith eu plentyndod. Mae wyneb cyfeillgar, gwên a geiriau cyfarwydd yn golygu cymaint i'r bobl hyn.

Dyna anrheg nad yw'n costio dim.

1 comment:

Anonymous said...

Dwi'n cofio fy chwaer yn dweud wrthyf wedi iddo fod yn un o'r cartrefi henoed yng Nghastell newydd (hwna ger y llyfrgell) ei bod yn teimlo'n drist iawn wedi dod oddi yno. Clywed llawer o'r henoed yn siarad Cymraeg gyda'u gilydd ond dim un o'r staff yn siarad yr iaith hy y rhai wnaethant hwy gyfarfod y dydd 'ny. Rhwng Comisiynydd yr henoed a Chomisiynydd yr Iaith, gobeithio fydd hyn yn newid cyn bo hir.