Tuesday 11 September 2012

Blogio

Does dim rhaid i neb sgwennu blog yng Nghymru ar wahân i ychydig o fois y Bîb fel Vaughan Roderick a Betsan Powys (gweler telerau ac amodau eu cyflogaeth), felly pam fod pobl yn blogio? Nid oherwydd yr arian, mae'n sicr.

Yn fy achos i, y profiad o geisio cael gwybodaeth syml gan y Cyngor Sir wnaeth i fi wylltio. Dim ond gofyn am adroddiad am draffig lleol ac astudiaeth cynllunio manwerthu roeddwn i. Doeddwn i ddim yn disgwyl brwydr hir a rhwystredigaethus yn fy niniweidrwydd.

Es i ati i ddarllen erthyglau di-ri o'r wasg a blogiau am y Cyngor cyn dod i'r casgliad bod yna rywbeth o'i le. Dechrau llethr lithrig oedd hyn dw i'n sylweddoli nawr, ond dechrau digon diniwed.

Y cam nesaf oedd gadael sylwadau ar flogiau pobl eraill ac o dan straeon Golwg 360, cyn penderfynu creu blog fy hun. Ar unwaith roeddwn i'n gaeth i flogio.

Boed hyn yn wers i bawb, ond gan dy fod ti'n darllen y blog yma, mae'n rhy hwyr, falle.

Un o gwestiynau fu'n rhaid ymladd ag e ar y cychwyn oedd, pa iaith? Penderfynais i gadw blog dwyieithog, ond wedi blwyddyn a mwy o flogio, mae'n rhaid cyfaddef mai yn Saesneg yw'r rhan fwyaf o'r blogiadau, ac dw i'n amau nad yw dwy iaith o fewn un blog yn llwyddiannus. Dylwn i fod wedi dewis un iaith a glynu ati.

Ffordd arall o fynd ati yw cadw mwy nag un blog, ac enghraifft amlwg ar hyn yw'r Hen Rech Flin, er ei fod yn dawel ers sbel.

Wrth i ti, fel blogwr newydd, wynebu'r dewis rhwng y ddwy iaith, mae'n well bod yn onest. Pwy yw'r gynulleidfa a beth yw nod dy flog? Wrth reswm, mae maint y gynulleidfa Gymraeg yn llai, ond o weld ystadegau BlogMenai a bywiogrwydd y sylwadau arno, mae'n amlwg bod hen ddigon o bobl sydd am ddarllen blogiau Cymraeg. Ac mae yna rai dylanwadol yn eu plith, mae'n debyg.

Yn ôl Ifan Morgan Jones, mae'n bosib bod oes euraidd y blogiau Cymraeg wedi mynd, er eu bod nhw'n gallu addasu a goroesi wrth i'r cyfryngau cymdeithasol newid, yn ei farn yntau.

Yn y cyfamser, roeddwn i'n siomedig gweld cyn lleied o flogiau Cymraeg ar restr fer Gwobrau Blogiau Cymru - dim ond un a dweud y gwir. Mae Ifan, fel aelod o'r panel, wedi rhoi esboniad am hyn ar ei flog (yma).

Er bod rhyw 400 o flogiau Cymraeg ar restr Hedyn, mae nifer ohonyn nhw wedi hen ddiflannu, mae rhai eraill mewn limbo, tra bod ambell un newydd yn dod i'r fei. Ac wedyn, mae'n dal yn bosib darganfod tlysau bach fel Sgen ti job i fi?

Felly, gyfeillion, mae wastad lle i flogiau Cymraeg newydd am unrhyw bwnc, boed hynny am fwyd neu farddoniaeth, garddio neu grynj. O ran anffyddiaeth, mae Dylan Llyr wedi cornelu'r farchnad, rhaid dweud.

Byddai'n dda gweld mwy o Gymraeg ar y rhestr fer y flwyddyn nesaf. Beth amdani?
Fe fydd rhaid i'r Cneifiwr ddod oddi ar y ffens ddwyieithog cyn hynny, siŵr o fod.







1 comment:

Anonymous said...

Os fydd gan rhywun rhwybeth o werth ei ddweud, dwi ddim yn meddwl fod ots beth yw'r iaith. Pan nag wyt ti'n meddwl fod dy flog yn gweithio fel ag y mae.....yn ddwy-ieithog?