Saturday, 28 July 2012

Pam Pam?


Dyma newyddion da:
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi manylion bargen newydd â BT gyda’r amcan fydd 96 y cant o gartrefi a busnesau Cymru yn gallu manteisio ar Band Eang y Genhedlaeth Nesaf erbyn diwedd 2015.
Maen nhw am fuddsoddi £425 miliwn i fewn i band eang trwy Gymru, yn ôl y datganiad. Wow.

Bydd sawl pentref a chartref diarffordd yn Sir Gaerfyrddin wrth eu boddau'n clywed y newyddion. Rhyfedd dweud felly, mai un o blaenoriaethau newydd ein Cyngor Sir dros y pum mlynedd nesaf yw gwella mynediad i'r band eang mewn ardaloedd gwledig.

Pam Palmer, arweinydd yr Annibynwyr swyddogol, fydd yn gyfrifol am hynny yn ôl y cytundeb rhwng Llafur a'r Annibynwyr, ond mae'r datganiad gan y Llywodraeth yng Nghaerdydd yn golygu nad oes fawr o ddim i'w wneud ar lefel y Cyngor Sir bellach.

Yn ogystal â cheibio'r ffyrdd a gosod ceblau ym Mhentrecagal a Chilycwm, mae cyfrifoldebau Pam fel Dirpwy Arweinydd (Materion Cymunedol a Gwledig) yn cynnwys Bwcabus (gwasanaeth bws) a "chadw pobl ifainc yn y diwydiant amaethyddol trwy eu helpu i ddatblygu...cyfleoedd gwaith amgen."

Wedi colli un o'i phrif raisons d'être, mi fydd gan Pam dipyn o amser sbâr nawr, mae'n debyg. Tybed, a fyddai hi'n fodlon rhoi rhan o'i lwfans (£31,120 y flwyddyn) i ariannu ffilmio cyfarfodydd y cyngor? Neu, sibrydwch y peth yn dawel, mae yna le i ofyn a oes wir angen Pam o gwbl. Dyna gwestiwn brawychus.

1 comment:

Anonymous said...

Rwy'n darllen dy flog yn rheolaidd. Mae'r ffordd rwyt ti'n ysgrifennu yn Gymrageg yn glir ac yn naturiol. Da iawn.