Monday 23 January 2012

Cyngor Sir Gaerfyrddin a'r Gymraeg

Cafodd Cyngor Sir Gaerfyrddin ei feirniadu'n gryf mewn adroddiad gan Estyn am ei wasanaethau addysg i oedolion ym mis Mawrth 2011. Dylai'r cyngor wella safon dysgu ac addysgu, dylai'r cyngor wneud mwy i sicrhau ac amddiffyn oedolion bregus, a dylai'r cyngor wella darpariaeth addysg ddwyieithog a chyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl Estyn.

Beth yw ymateb y Cyngor, felly?

Wel, maen nhw'n mynd ati i ailstrwytho adran Dysgu Oedolion yn y Gymuned; bydd llai o gyrsiau ar gael a llai o diwtoriaid; hefyd, maent yn cael gwared ar staff llawn amser. Mae'n rhaid iddynt arbed arian, ac felly mae dogfen "ymgynghori" uniaith Saesneg wedi mynd at bob aeolod o staff, gan gynnwys yr holl diwtoriaid sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a Chymraeg i Oedolion.

Polisi'r cyngor yw "yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod nhw’n gyfartal." Yn swyddogol, wrth gwrs.

4 comments:

Anonymous said...

Pwy ydy chi? Dwi'n byw yn CNE! Neu ydy chi eisiau bod yn anhysbys?

Plaid Gwersyllt said...

Wedi gneud cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn Gymraeg i Gyngor Sir Gar dair wythnos yn ol. Heb gael cydnabyddiaeth heb son am ateb.

Cneifiwr said...

Diolch am y sylwadau, Anon. Am resymau teuluol byddai'n well gen i fod yn anhysbys.

Cneifiwr said...

Plaid Gwersyll - mae'n debyg bod y cais wedi glanio mewn rhyw ffeil neu'i gilydd - llythyrau mewn ieithoedd estron.