Friday 12 August 2011

Terfysg, chwyldro ac hanes

Daeth rhyw ymchwiliwr neu'i gilydd o hyd i hen ddyddiadur yn archifau Ffrainc ychydig o flynyddoedd yn ôl. Dyddiadur y prif arddwr i'r brenin yn y Palais Royal ym Mharis oedd e, a gwethiai'r dyn yn y gerddi dros y cyfnod cyfan o'r chwyldro Ffrengig, felly bu tipyn o gyffro bod ffynhonnell bwysig newydd am y digwyddiadau wedi dod i olau dydd.

Ysgrifennai'r garddwr am ei waith a'r tywydd bob dydd yn y gyfrol fach drwchus, ond doedd yr un gair am y chwyldro ynddi, heblaw am unwaith pan gwynodd y garddwr fod torf wedi sathru dros y tiwlipau.

No comments: