Friday 17 June 2011

Carl Sergeant - ateb tila

Gofynnodd Simon Thomas i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Cymru, Carl Sergeant, am bolisi'r Llywodraeth am ffilmio cyfarfodydd cyhoeddus ein cynghorau:

"A fyddai’n well pe darlledwyd pob cyfarfod o’r cabinet a’r cyngor dros y we, gan y byddai hynny o leiaf yn agor strwythurau’r cynghorau i’r cyhoedd, gan alluogi’r cyhoedd i weld y penderfyniadau’n cael eu gwneud drostynt?"

Cafodd Simon ateb tila tu hwnt gan y gweinidog sy'n edrych fel paffiwr crac mewn clwb nos ar ôl llyncu cacwn:

"There are huge opportunities for local authorities to engage in the democratic process. We placed an opportunity in the Local Government (Wales) Measure 2011 for councils to use video-conferencing facilities to enable elected members to attend from a distance and to enable council meetings to be streamed online. That was supported by colleagues on this side of the Chamber, but unfortunately not by colleagues on that side."

Wel, mae'r mesur 'ma'n disgrifio hawliau a dyletswyddau cynghorwyr, ond does dim sôn am hawliau'r cyhoedd i weld beth maen nhw'n ei wneud. Gall cynghorwyr fynychu cyfarfodydd o bell, mae'n wir, ond dim ond os bydd y cyngor yn ei ganiatáu.

Mesur tila ac ateb tila, felly.

Polisi ein llywodraeth egniol newydd ni yw...ermmm.....gwneud cyn lleied ag sy'n bosib.



 

1 comment:

Anonymous said...

Dwi'n credu bod y gweinidog ar 'wave length' gwahanol i beth mae pobl yn galw amdano. Mae ef yn sôn am ffrydio cyfarfodydd fel bod cynghorwyr yn gallu mynychu o dy allan i siambr y cyngor. Ond mae hyn yn wahanol i ffrydio fe i'r cyhoedd, ac i rhoi'r hawl i'r cyhoedd ffilmio / recordio / tweetio a blogio.

Ti wedi taro’r hoelen ar ei phen pan ti'n dweud bod y mesur ddim yn canolbwyntio ar hawlio dinasyddion.

Croeso i'r blogosffer!