Bydd rhai ohonoch chi'n cofio'r ffrae yn nhudalennau'r Teifiseid ar ddechrau'r flwyddyn hon ar ôl i Gyngor Sir Ceredigion gyhoeddi cynllun i droi Ysgol Gynradd Aberteifi'n ysgol cyfrwng Cymraeg.
Ymddengys bod grwp o wrthwynebwyr wedi cael ei sefydlu i ymladd yn erbyn y Gymraeg yn ysgolion Ceredigion, ac mae rhywun wrthi'n anfon y linc yma yn anhysbys i ffonau pobl yn ardal Aberteifi a Chastell Newydd Emlyn.
7 comments:
Os ydynt yn gweld gormod o Gymraeg yn ysgolion Ceredigion, duw a'n helpo. mae sefyllfa'r iaith, yn enwedig yn yr ysgolion uwchradd, yn druenus.
As a Welsh learner I'm keen on becoming bilingual and would be glad to see more Welsh everywhere. If the Bilingo people are truly in favour of a Bilingual Wales then they should be encouraged - and helped, perhaps to translate the site.
The site might be better if the people involved in it were more evident. When no-one says who they are, it can come across as shady.
The statement "We fear that raising objections directly with schools will result in prejudice against our children" is worrying. Hopefully the schools can comment upon this.
There's some irony in the concerns on this page:
http://bilingo.weebly.com/statement.html
If blogs had existed in the 18th and 19th Century the same six statements might have been made about the discouragement of Welsh.
Dim ond dau sydd yn eu dilyn ar twitter; D Ellis Thomas yw un ohonynt! Mae nhw wedi bod yn cysylltu gydag ef a Chomisiymydd y Plant. Nid wyf i'n meddwl eu bod yn grwp mawr iawn. Beth wyt ti'n meddwl?
Dwi'n ddigon hen i gofio ffolineb Education First yn yr ardal, ynghyd ar cyhuddiadau ffug a wnaed gan unigolyn o'r dre. Diddorol gweld fod cyn lleied yn ei dilyn ar Twitter. Tybed beth fydde ymateb y grŵp, os ellir eu galw yn grŵp, pe baent wedi symud i Ffrainc i fyw.
Yn cymoedd y de/Caerdydd mae rheini di gymraeg yn anfon eu plant drwy'r sustem addysg Gymraeg heb gonan. Pam bod rhieni gwledig wastad yn cael anhawster am addysg Gymraeg? mae hwn di godi ei ben yn Llambed hefyd a dim dim ond saeson syn achwyn , mae gas gen i ddweud.
Rwyn 'nabod rhai ohonynt. Mae un cefnogwr yn anfon ei blant i Ysgol Ddwyieithog y Preseli! Ychydig iawn ydynt mewn nifer a sylwedd. Mae eu safiad yn sicr yn wrth-Gymreig ac yn ddisylwedd.
Oes syndod bo'r Daily Mail a diddordeb ynddynt?
Sdim syndod chwaith bod nhw am barhau'n ddi-enw. Mae'n amlwg taw'r un hen grwp fach swnllyd ydynt.
http://www.dailymail.co.uk/news/article-2232814/Ceredigion-primary-school-children-told-toilet-unless-ask-WELSH.html
Post a Comment